Croeso
MAE YNA 5,000 O RHESYMAU DROS RHOI PLEIDLAIS I'R CEIDWADWYR YN MIS MAI. Dyma tri i gychwyn...
Cyfoeth nid gwastraff
Mae’r Cynulliad yn gwario £5,000 dros pob dyn, dynes a phlentyn yng Nghymru, sef £14 biliwn ar ysbytai, ysgolion, ffyrdd, amaeth a datblygu busnes. A ydych eisiau gweld yr arian yma yn cael ei wastraffu ar gynlluniau drudfawr ac aneiffeithiol sydd yn cael eu rheoli o Gaerdydd, neu yn cael ei wario yn mwy effeithiol i gynorthwyo pobl lleol creu cyfoeth a swyddi yn Aberconwy?
Gwasanaethau rheng flaen nid biwrocratiaeth
Cyflogir un gweinyddwr am bob tri meddyg neu nyrs yn Nghogledd Cymru. A ydych eisiau gweld y biwrocrataieth anferth yma yn parhau i wario cannoedd o filiynau o bunnoedd pob blwyddyn pryd y buasai yn well rhyddhau’r arian er sicrhau fod yna wasanaethau rheng flaen gwell yn Aberconwy ac chadw ysbytai lleol ar agor?
Helpu busnesau lleol i adeiladu cymunedau llwyddianus
Mae’r sector gyhoeddus yn gwario £5 billion pob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau ond mae llai na hanner y gwariant yn mynd i fusnesion lleol. Beth am wneud yn siwr bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei fuddsoddi ble gall wneud y gwahaniaeth mwyaf, sef helpu busnesion lleol i greu swyddi lleol yn Aberconwy.
